Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈəsɨ̞/
  • yn y De: /ˈəsi/

Geirdarddiad

Celteg *essi ‘bwyta’ o'r ffurf Indo-Ewropeg *h₁é-tˢti, estyniad o'r gwreiddyn *h₁ed- ‘bwyta’ a welir hefyd yn yr Hetheg e-zzazzi a'r Sansgrit átti (अत्ति). Cymharer â'r Hen Lydaweg esat a'r Hen Wyddeleg ·estar ‘bwytao’, ffurf ddibynnol ar ithid ‘bwyta’.

Berfenw

ysu berf gyflawn ac anghyflawn

  1. Difa (am dân), bwyta (am fwyd)
  2. Difa, rhydu (am asid)
  3. (yn y Gogledd-ddwyrain a'r De-ddwyrain) Cosi
  4. Dyheu, hiraethu

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau