Cymorth:Dechrau tudalen newydd


Croeso!

Mae creu cofnodion newydd sbon yn ffordd wych o gynorthwyo'r Wiciadur i gynyddu ei faint a'i fanylder.
Dyma sut y gallwch chi ddechrau tudalen Wiciadur:

Dechrau tudalen golygu

Yn syml, teipiwch y gair yr hoffech creu cofnod ohono yn y "Blwch Chwilio" (a welir gan amlaf ar ochr chwith eich sgrîn) ac yna cliciwch ar "Mynd". Wrth wneud hyn, bydd y cofnod naill ai'n ymddangos os yw'n bodoli eisoes, neu fe welwch dudalen yn dweud wrthoch nad yw'r fath gofnod yn bodoli. Mewn achosion fel hyn, yn syml cliciwch ar y ddolen goch sy'n dweud "Creu'r dudalen enw'r cofnod ar y wici hwn!" a bydd blwch golygu gwag yn ymddangos. Teipiwch yr hyn rydych eisiau gweld yn y blwch golygu (gweler Cymorth:Sut i olygu tudalen, neu Wiciadur:Tiwtorial). Ar ôl i chi orffen, defnyddiwch y botwm "Dangos rhagolwg" isod i weld sut fydd y dudalen yn edrych. Os ydych yn hapus gyda'r dudalen, yna cliciwch ar "Cadw tudalen" ar waelod y dudalen, ac rydych wedi creu cofnod newydd.

Dechrau tudalen gan ddefnyddio dolen goch golygu

Wrth ddarllen trwy gofnodion Wiciadur, fe welwch ddolenni coch a glas y gellir clicio arnynt. Mae'r rhai glas yn gofnodion sy'n bodoli eisoes, tra bod y rhai coch yn gofnodion sydd heb eu hysgrifennu eto. Os gliciwch chi ar ddolen goch fel hyn, bydd yr un blwch golygu gwag a ddisgrifiwyd uchod yn ymddangos.

Pethau defnyddiol i wybod golygu

Dechrau eich Pwll Tywod eich hun golygu

Mae Pwll Tywod yn fan defnyddiol i ddefnyddwyr o bob gallu i arbrofi gyda golygu. Ceir un Pwll Tywod sy'n gyffredin i bawb sef (Wiciadur:Pwll tywod), a glanheuir cynnwys y dudalen hon yn rheolaidd. Gall defnyddwyr cofrestredig greu eu pwll tywod eu hun trwy deipio Defnyddiwr:EichEnwDefnyddiwr/Pwlltywod ym mlwch Chwilio Wiciadur a chlicio ar Mynd.

Darganfyddwch fwy... golygu

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y tudalennau canlynol: