Dyma restr o dermau, geirfa ac ymadroddion a ddefnyddir yn y prosiect hwn.
Trwy glicio ar y dolenni glas, byddwch yn mynd yn syth i'w dudalen berthnasol.

Cynnwys y dudalen: A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

  • b - cenedl enw benywaidd.
  • bachigyn - ffurf ar air sy'n dynodi bychander, ieuenctid, amhwysigrwydd neu annwyldeb. (S. diminutive)
  • benthycair - gair a fenthyciwyd neu a addaswyd o iaith arall. (S. loanword)
  • berf - gair sy'n dynodi gweithred neu weithgarwch. (S. verb)
  • berfenw (S. verbal noun)
  • bôn (S. stem)
  • bratiaith - Yn dynodi iaith sy'n unigryw i bwnc neu broffesiwn penodol. Iaith a ystyrir yn gwrs neu'n anweddus. (S. slang)
  • byrfodd - ffurf fyrrach o air, e.e. pan fod llythrennau cychwynnol geiriau'n cael eu defnyddio, acronymau. Mae a.y.b. yn fyrfodd o ac yn y blaen. (S. abbreviation)
  • CC - Cyn Crist.
  • categori - casgliad o gofnodion, a ddefnyddir i gategoreiddio neu grwpio cofnodion sydd yn debyg o ran cystrawen (e.e. enwau Cymraeg, ansoddeiriau Saesneg)
  • cenedl - rhyw enw, rhagenw neu ansoddair, e.e. benywaidd, gwrywaidd, diryw, deuryw(iol). (S. gender)
  • cofnod - tudalen sy'n cynnwys esboniad neu ddiffiniad o air neu ymadrodd. (S. entry)
  • cyfaddasiad - addasu benthycair i'w Cymreigio yn well. (S. adaptation)
  • cyfansoddair - gair wedi ei lunio trwy gyplysu ynghyd ddau air neu fwy. (S. compound)
  • cyfartal - gradd, neu ffurfdroad, o ansoddair cymaradwy. Defnyddir y ffurf gyfartal i ddynodi fod rhywbeth "yr un mor... a..." e.e. Roedd y ddau fachgen cyn daled a'i gilydd. (S. equative)
  • cymaradwy - (am ansoddair) yn medru cael ei gymharu gyda ffurfiau cymharol, cyfartal ac eithaf sydd â'r terfyniadau -ach, -ed a -af. Enghreifftiau: tal, talach, cyn daled, talaf. Ni ellir cymharu rhai ansoddeiriau, megis dyddiol ac eraill.
  • cymharol - gradd, neu ffurfdroad, o ansoddair cymaradwy. Gan amlaf, cyfeiria at rywbeth sydd ‘yn fwy na’ ond nid ‘y mwyaf’ (gweler hefyd y radd eithaf). Ni ellir cymahru rhai ansoddeiriau e.e. dyddiol, ychwanegol, arall a.y.b. (S. comparative)
  • cysefin - anooddair yn ei ffurf fwyaf naturiol, h.y. ansoddair na sydd wedi cael ei newid o gwbl. (S. positive)
  • cywasgiad - cwtogi dau air neu fwy, e.e. neu’r, sy’n, wedi’u. (S. contraction)
  • d - cenedl enw diryw.
  • dadfathiad (S. assimilation)
  • darfodedig (S. obsolete)
  • dyddiedig - Gair neu ymadrodd a oedd arfer cael ei ddefnyddio'n gyffredin, ond sydd bellach yn anffasiynol; e.e. hoyw yn yr ystyr "lliwgar" neu "hapus", wireless wrth gyfeirio at "radio". (S. dated)
  • ffigurol - Nid yn llythrennol. Yn aml pan ddefnyddir geiriau ag ystyron trosiadol e.e. "mochyn" am berson barus, neu'r "Goron" i gyfeirio at y frenhiniaeth.
  • ffurf
    • ffurf gyfochrog (S. byform)
    • ffurf lluosog (S. plural)
    • ffurf unigol (S. singulative)
  • ffurfiol - Disgrifia gyd-destun lle bo'r dewis o eiriau a chystrawen wedi'u cyfyngu i'r termau ac iaith a dderbynir gan ysgolheigion a sefydliadau swyddogol fel yr iaith fwyaf addas a phriodol. Yn aml, bydd termau anffurfiol (yr iaith a ddefnyddir mewn iaith lafar) yn anaddas mewn amgylchiadau ffurfiol.
  • g - cenedl enw gwrywaidd.
  • geiryn - rhan ymadrodd nas treiglir ac nas defnyddir ar ei ben ei hun (e.e. fe, y, ydd). (S. particle)
  • gwreiddyn - bôn tybiedig yr olrheinir iddo air neu grŵp o eiriau cytras. (S. root)
  • hynafol - Gair na sydd yn cael ei ddefnyddio bellach ond gellir dod o hyd iddo o hyd mewn rhai testunau modern (e.e. cyfieithiadau o'r Beibl). Gan amlaf maent yn ddealladwy i bobl ddysgedig. Er enghraifft, mae efe a hyhi yn rhagenwau hynafol er mai'r term cyfoes fyddai ef neu hi. Mae hynafol yn derm cryfach na dyddiedig, ond nid yw cyn gryfed a darfodedig. (S. archaic)
  • iaith lafar - Yn dynodi ffordd o siarad neu ysgrifennu sydd yn nodweddiadol o sgwrs gyffredin; anffurfiol. Amdano neu'n ymwneud â sgwrs; sgyrsiol. (S. vernacular, colloquial language)
  • idiomatig - Yn ymwneud â, neu'n cydymffurfio â'r math o fynegiant a gysylltir â iaith.
  • llythrennol - Yn union fel a nodir; i'w ddarllen a'i dderbyn fel ag y mae a heb ei ddadansoddi ymhellach; nid yn ffigurol nac yn drosiadol. (S. literal)
  • ôl-ddodiad - geiryn a ychwanegir ar ddiwedd gair i addasu ystyr y gair. (S. suffix)
  • Pwll tywod - tudalen wag y gellir ei defnyddio er mwyn arbrofi a gweld sut y bydd eich cyfraniad yn edrych.
  • rhagddodiad - geiryn a ychwanegir ar ddechrau gair i addasu ystyr y gair. (S. prefix)
  • rhifadwy - Disgrifia enw a ellir ei ddefnyddio â'r fannod (y, yr neu 'r yn Gymraeg) a chyda rhifau, ac felly mae ganddo ffurf luosog. Gwrthwynebair: anrhifadwy.
  • tafodieithol - amdano neu'n ymwneud â tafodiaith. Iaith lafar na sydd ieithyddol safonol. (S. dialectal)
  • talfyriad - gair wedi ei lunio trwy golli un sillaf neu fwy o air amlsillafog, fel ffôn o teleffon; ffurf dalfyredig. (S. clipping, clipped word)
  • tarddair - gair sy'n tarddu o air arall (e.e. berfol o berf, geiryn o gair, anffurfiol o ffurfiol o ffurf). (S. derivative)
  • terfyniad - rhan derfynol gair, yn benodol elfen derfynol a ychwanegir at air neu fôn geiriol i fynegi perthynas neu newid ystyr. (S. ending)
  • trawsosodiad (S. metathesis)
  • treiglad (S. mutation)
  • Tudalen sgwrs - tudalen a ddefnyddir er mwyn codi cwestiwn neu drafodaeth am gynnwys cofnod.

Mae'r cofnod hwn yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.