Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈarwɨ̞ð/
  • yn y De: /ˈa(ː)rʊi̯ð/, /ˈarwɪð/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol arwyd o'r Gelteg *φarewēdiom o *φare ‘ar’ + *wēdiom fel yn gŵydd ‘presenoldeb; golwg’. Cymharer â'r Gernyweg arwodh, y Llydaweg arouez a'r Wyddeleg Ganol airde.

Enw

arwydd g (lluosog: arwyddion)

  1. Awgrym gweladwy.
    Roedd y cymylau duon yn arwydd sicr fod glaw ar ei ffordd.
  2. Gwrthrych y gellir ei weld yn glir, gyda neges byr ar ffurf geiriau neu luniau arno.
    Roedd arwydd ar ddrws y siop yn nodi ei fod ar gau.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau