Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Bwch iwrch.

Cynaniad

  • /jʊrχ/

Geirdarddiad

O'r Gelteg *iorkos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *i(o)rḱ- a welir hefyd yn y Lladin hircus ‘bwch (gafr)’, yr Hen Almaeneg Uchel irah, ireh ‘bwch, hydd’ a'r Hen Roeg íorkes, íurkes (ll.) ‘iwrch’. Cymharer â'r Gernyweg yorgh a'r Llydaweg yourc'h.

Enw

iwrch g (lluosog: iyrchod)

  1. (swoleg) Carw bychan Ewrasiaidd sionc sydd heb unrhyw gynffon weladwy ond sydd â chlwt gwyn ar ffolennau, côt haf frowngoch sy'n llwydo yn y gaeaf, a chyrn triphig byrion gan y gwryw.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau