Cymraeg

Cynaniad

  • /maːd/

Geirdarddiad

Celteg *matis o’r ffurf Indo-Ewropeg *m̥h₂tis ‘aeddfed, amserol’, estyniad o’r gwreiddyn *meh₂- ‘aeddfedu’ a welir hefyd yn y Lladin mātūrus ‘amserol, aeddfed’, mānis, mānus ‘da’, Mātūta, duwies y wawr, a’r Hetheg meḫur ‘amser’. Cymharer â’r Llydaweg mat ‘lwcus, ffortunus’ a’r Wyddeleg maith ‘da’.

Ansoddair

mad (cyfartal mated, cymharol matach, eithaf mataf)

  1. Da.
  2. Lwcus, ffodus.
  3. Gweddus, gweddaidd.

Cyfieithiadau

Saesneg

Ansoddair

mad

  1. gwallgof, ynfyd, lloerig