Cymraeg

Cynaniad

  • Cymraeg y Gogledd: /mɨ̞nd/
    • iaith lafar: /mɨ̞n/
  • Cymraeg y De: /mɪnd/
    • iaith lafar: /mɪn/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol mynet o'r Gelteg *monetu, berfenw o'r ferf *mon-ī-, fel yn y Wyddeleg Canol muinethar ‘â o gwmpas’, o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *menH- ‘pwyso, troedio’ a welir hefyd yn y Lladin meāre ‘tramwy(o)’, y Tsieceg míjeti ‘mynd heibio’ a'r Lithwaneg mìnti ‘sathru, mathru’. Cymharer â'r Gernyweg mones a'r Llydaweg mont.

Berfenw

mynd berf gyflawn ac anghyflawn; afreolaidd

  1. I symud o un lle i le arall.
    Mae'r tren hwn yn mynd i Aberystwyth.
  2. I adael; i symud i ffwrdd.
    Paid mynd!
  3. Yn arwain (i gyfeiriad penodol)
    Ydy'r heol hyn yn mynd i Lundain?
  4. I gael ei werthu
    Rhaid i bopeth fynd!

Termau cysylltiedig

Cyfystyron

Cyfieithiadau