Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Alarch.

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈalarχ/
  • yn y De: /ˈaːlarχ/, /ˈalarχ/

Geirdarddiad

O'r Frythoneg *elarsko-, estyniad ar y Gelteg *elon (a roes yr Wyddeleg eala) o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₁el- ‘aderyn dŵr’ a welir hefyd yn y Lladin olor ‘alarch’, Swedeg (taf.) al(l)a ‘hwyaden gynffonhir’, yr Hen Roeg eléa (ἐλέα) ‘aderyn y gors’ a'r Hetheg alilas. Cymharer â'r Gernyweg alargh a'r Llydaweg alarc'h.

Enw

alarch g (lluosog: elyrch)

  1. (adareg) Unrhyw un o amryw rywiogaethau o adar dŵr mawr troedweog o dylwyth y Cygnus. Mae gan y mwyafrif ohonynt blu gwyn i gyd, pig llydan, coesau bychain, a gwddf hir, main ac yn osgeiddig crwm.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau