Cymraeg

 
Dyn yn cael cawod (ystyr 2, 3)

Cynaniad

  • /ˈkau̯.ɔd/

Geirdarddiad

Celteg *kowVt- neu *kuwVt- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ḱeh₁-u- a welir hefyd yn y Lladin caurus ‘gwynt y gogledd-orllewin’, y Lithwaneg šiáurė ‘gogledd’, šiaurỹs ‘gwynt y gogledd’ a'r Rwseg séver (се́вер) ‘gogledd’. Cymharer â'r Gernyweg kowas a'r Llydaweg kaouad.

Enw

cawod b (lluosog: cawodau, cawodydd)

  1. (meteoroleg) Cyfnod byr o fwrw gwlybaniaeth, fel glaw, cesair, eirlaw neu eira, ac a nodweddir gan ddechrau a diwedd sydyn ac sy'n amrywio'n gyflym o ran dwyster.
    Heddiw fe fydd heulwen ond ambell gawod hefyd.
  2. Dyfais a ddefnyddir i ymdrochi lle mae dŵr yn chwistrellu i lawr ar gorff yr ymdrochwr, naill ai o danc neu drwy weithrediad pwmp.
  3. Ymdrochiad gan ddefnyddio'r dyfais hon.
    Dw i'n mynd dan gawod.

Amrywiadau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau