Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Seren yn y nos

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈsɛrɛn/
  • yn y De: /ˈseːrɛn/, /ˈsɛrɛn/

Geirdarddiad

Ffurf unigolynnol sêr o'r Gelteg *sterā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂stḗr a welir hefyd yn y Lladin stēlla, yr Hen Roeg astēr (ἀστήρ) a'r Ffarseg setāre (سِتارِه‎). Cymharer â'r Gernyweg ster a'r Llydaweg stered, (taf.) ster.

Enw

seren b (lluosog: sêr)

  1. Corff wybrennol sydd liw nos yn weladwy o'r Ddaear fel pwyntiau golau cymharol lonydd a disglair.
  2. (seryddiaeth) Corff wybrennol nwyol, sfferoidaidd ac ymoleuol o fàs mawr sy'n cynhyrchu egni trwy adweithiau ymasiad niwclear.
  3. Person enwog neu adnabyddus.
    Cyrhaeddodd y seren bop y stadiwm, yn barod i berfformio.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau