Cymorth:Prif dudalen


Cymorth i gyfrannwyr
  • Dewiswch unrhyw air - Teipiwch y gair yn y blwch chwilio a chliciwch ar Mynd neu Chwilio. Os nad yw'r cofnod yn bodoli eisoes, bydd tudalen 'Canlyniad y chwiliad' yn ymddangos. Cliciwch ar y ddolen goch er mwyn mynd at dudalen newydd lle gallwch chi greu diffiniad o'r gair.

  • Ar y dudalen newydd nodwch o ba iaith y daw'r gair. - Rydym yn defnyddio codau gwahanol ar gyfer pob iaith. Ceir rhestr ohonynt fan hyn. Nodwch y cod cywir ar frig y cofnod newydd.

  • Nodwch pa fath o air ydyw e.e. berf, ansoddair, adferf a.y.b. - Unwaith eto, rydym yn defnyddio codau ar gyfer y rhannau ymadrodd hyn. Gweler Wiciadur:Defnyddio codau ieithyddol.

  • Teipiwch {{pn}} fel bod y gair yn ymddangos oddi tano. Ychwanegwch a yw'r gair yn {{f}} fenywaidd, {{m}} gwrywaidd neu'n {{d}} ddiryw h.y. enw na sydd yn wrywaidd neu'n fenywaidd. Os yw'r gair yn medru bod yn wrywaidd ac yn fenywaidd, defnyddiwch {{m}}/{{f}}

    • Ysgrifennwch eich diffiniad oddi tano ond cofiwch y canlynol:
      • Er mwyn i air yn eich diffiniad gysylltu â thudalen arall, rhowch [[esiampl]] o'i amgylch. Bydd hyn yn gwneud iddo edrych fel hyn enghraifft.

      • Er mwyn cynnwys cyfieithiad mewn iaith arall, teipiwch
        {{-trans-}}
        {{(}}
        *{{en}}: [[example]]
        {{)}}

  • Rhowch y cofnod newydd mewn categori. - Mae hyn yn hwyluso'r broses o ddod o hyd i gofnodion.

  • Er mwyn gweld rhagolwg o'r cofnod, cliciwch ar Dangos rhagolwg.

  • Os ydych yn hapus â'ch cyfraniad, cliciwch ar Cadw'r dudalen

Gwella'r cofnod
  • Os ydych yn gwybod tarddiad y gair, defnyddiwch y côd {{-etym-}} a nodwch o ble y daw'r gair neu'r ymadrodd oddi tano.

  • Dylid nodi ynganiad y gair trwy ddefnyddio'r cod {{-phon-}} a'r cynaniad oddi tano.

  • O dan eich diffiniad, a chyn unrhyw gyfeithiadau, gallwch nodi geiriau eraill sy'n meddwl yr un peth h.y. Cyfystyron. I wneud hyn, defnyddiwch y cod {{-syn-}}. Ar y llinell oddi tano, rhowch * ac yna'r cyfystyron mewn cromfachau sgwâr. [[esiampl]].

  • Er mwyn cynnwys geiriau cysylltiedig, defnyddiwch y cod {{-rel-}} a dilynwch y canllawiau ar gyfer "Cyfystyron". Dylai hyn ddod ar ôl unrhyw gyfystyron.

Tudalennau defnyddiol eraill

Os nad yw'r canllawiau uchod yn ateb rhyw gwestiwn sydd gennych, cliciwch fan hyn.