Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈkaru/
  • yn y De: /ˈkaːru/, /ˈkaru/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol caru o'r Gelteg *karwos o'r ffurf *ḱr̥wós, gradd sero *ḱerwós, o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *ḱer- ‘corn’ a welir hefyd yn y Lladin cervus ‘carw’, yr Iseldireg hert ‘carw’ a'r Lithwaneg kárvė’ ‘buwch’. Cymharer â'r Gernyweg karow ‘carw’, y Llydaweg karv ‘carw coch’ a'r Hen Wyddeleg carbh ‘bwch, hydd’.

Enw

carw g (lluosog: ceirw)

  1. (swoleg) Unrhyw un o amryw garnolion eilrif-fyseddog coesfeinion yn cnoi eu cil, ac sy’n hynod am eu cyrn canghennog a diosgol gan y gwryw ac am frychni (smotiau gwynion) gan y llwdn. Mae’n perthyn i deulu’r Cervidae neu un o’r teuluoedd cytras Tragulidae a Moschidae (y ddau heb gyrn).
    Gwnes ddifrod i'm car pan redodd carw ar draws yr heol.
  2. Cig anifail o'r fath.
    Dw i ddim wedi bwyta carw o'r blaen.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau