Cymraeg

Geirdarddiad

Cymraeg Canol keneu o’r Gelteg *kanawon- o’r ffurf *kn̥-Hwon ar y gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *(s)ken- ‘tarddu, hanfod; ffres, newydd, ifanc’ a welir hefyd yn y Rwseg ščenók ‘ci bach’, yr Armeneg skund ‘ci bach’ a’r Sansgrit kanyā́ ‘hogen, hoges’. Cymharer â’r Llydaweg kenow ‘cenau’ a’r Wyddeleg cana ‘bleiddian, cenau’.

Enw

cenau g (lluosog: cenawon)

  1. (swoleg) Un ifanc o epil rhai anifeiliaid megis arth, blaidd, cath, ci, llew, a.y.y.b.
  2. Cnaf, gwalch, adyn, dyn drygionus neu ddiffaith.

Cyfystyron

  1. arthan, bleiddian, cathan, llewyn
  2. arth fach, cath fach, ci bach

Cyfieithiadau