Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /χwɨːs/
  • yn y De: /χwiːs/
    • ar lafar: /ʍiːs/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol chuis o'r Gelteg *switsos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *sueid- a welir hefyd yn y Lladin sūdor, y Saesneg sweat a'r Latfieg svîst ‘chwysu’. Cymharer â'r Gernyweg hwys a'r Llydaweg c'hwez.

Enw

chwys g

  1. Hylif sy'n gadael y corff trwy mandyllau yn y croen. Digwydda hyn gan amlaf oherwydd straen corfforol a/neu tymheredd uchel a'i bwrpas yw rheoli tymheredd y corff ac i waredu elfennau penodol o'r cylchrediad.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau