clust
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /klɨːsd/, [klɨːst]
- yn y De: /klɪsd/, [klɪst]
Geirdarddiad
Celteg *kloustā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *ḱleu- ‘clywed’ a welir hefyd yn yr Islandeg hlust ‘corn y glust’ a'r Sansgrit śruṣṭi (श्रुष्टि) ‘ufudd-dod’. Cymharer â'r Wyddeleg cluas.
Enw
clust b (lluosog: clustiau)
- (anatomeg) Organ fertebraidd y clyw, sy'n gyfrifol am gynnal cydbwysedd yn ogystal â synhwyro sain ac wedi'i rannu mewn mamaliaid yn y glust allanol, y glust ganol a'r glust fewnol
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: clusten, clustiog, clustog, diglust
- cyfansoddeiriau: clustdenau, clust(d)rwm, clustfain, clustfawr, clustfyddar, clustgell, clustgoch, clustgwta, clustir ~ hirglust, clustlaes, clustlibin, clustlipa, clustraff
- cyfuniadau: clust eliffant, clust fôr ~ morglust
Cyfieithiadau
|
|