Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /krɨːχ/
  • yn y De: /kriːχ/

Geirdarddiad

Celteg *krixsos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)ker- ‘troi’ a welir hefyd yn y Lladin crispus ‘cyrliog’, yr Almaeneg Rispe ‘panicl’ a'r Lithwaneg kreĩpti ‘troi’. Cymharer â'r Gernyweg krygh a'r Llydaweg krec'h.

Ansoddair

crych

  1. Wedi crebachu, gyda phlygiadau bychain
  2. Yn troi yn gylchoedd
  3. (am ddŵr berw) Yn byrlymu

Cyfystyron

  1. crebachlyd, rhychog
  2. cyrliog, mordrwyog
  3. crychias, byrlymog, byrlymol

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau