cryf
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /krɨːv/
- ar lafar: /krɨː/
- yn y De: /kriːv/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol cryf o’r Gelteg *kriφmos, ansoddair thematig o’r enw *kriφ ‘corff’ (a roddodd yr Wyddeleg Canol crí) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *krep- a welir hefyd yn y Lladin corpus, yr Iseldireg rif ‘sgerbwd, corff marw’ a’r Hen Roeg prapís (πραπίς) ‘bol(a); llengig’. Cymharer â’r Gernyweg krev, y Llydaweg kreñv a’r Wyddeleg Canol crim ‘cyflym’.