Cymraeg

Cynaniad

Geirdarddiad

O'r geiriau cym- + mal ‘aelod o’r corff’, yr ail elfen o'r Gelteg *melsā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *mel- ‘aelod; asio, cydio’ a welir hefyd yn yr Hen Roeg mélos (μέλος) ‘aelod o’r corff; alaw’, Tochareg A/B mälk ‘asio, cydio’ a'r Sansgrit marman ‘aelod o’r corff’. Cymharer â'r Gernyweg mell ‘cymal’ a'r Llydaweg mell ‘cymal; cefngymal, fertebra’.

Enw

cymal g (lluosog: cymalau)

  1. (anatomeg) Unrhyw ran o'r corff lle mae dau asgwrn yn cwrdd, a gan amlaf yn galluogi'r rhan yna o'r corff i gael ei plygu neu sythu.
  2. (gramadeg) Berf ynghyd a'i wrthrych a'i addasyddion. Os yw cymal yn gwneud synnwyr ar ei ben ei hun, yna mae'n gymal annibynnol (uwchraddol); os nad yw, mae'n gymal dibynnol (israddol).

Cyfystyron

Cyfieithiadau