ewyllys
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɛu̯ˈəɬɨ̞s/
- yn y De: /ɛu̯ˈəɬɪs/
Geirdarddiad
O'r fôn ewyll- a'r terfyniad -ys, -is, -us o'r Gelteg *awislo- ‘awydd’ o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂eu- ‘dymuno, chwennych’ a geir hefyd yn y Lladin avēre ‘dyheu, hiraethu’, yr Armeneg aviwn ‘libido’ a'r Sansgrit ávati (अवति). Cymharer â'r Gernyweg awell ‘blys’, y Llydaweg youl ‘awydd, dymuniad’ a'r Wyddeleg iúl ‘arweiniad, cyfarwyddyd’.
Enw
ewyllys b (lluosog: ewyllysiau)
- Dewis annibynnol unigolyn.
- Bwriad neu benderfyniad rhywun.
- Yn y pen draw, roeddwn wedi ufuddhau i ewyllys fy rhieni.
- Datganiad ffurfiol yn dynodi'r hyn mae rhywun eisiau i ddigwydd i'w heiddo ar ôl eu marwolaeth.
- Dywedodd yr ewyllys fod yr hen wraig wedi gadael ei holl ystad i mi.
Cyfieithiadau
|