grug
Cymraeg
Cynaniad
- Cymraeg y Gogledd: /ɡrɨːɡ/
- Cymraeg y De: /ɡriːɡ/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol gwrug o’r Frythoneg *wrūcos o’r Gelteg *wroikos o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *wr̥Hḱ- a welir hefyd yn yr Hen Roeg ereíkē (ἐρείκη), y Lithwaneg vìržis a’r Tsieceg vřes. Cymharer â’r Gernyweg grug, y Llydaweg Canol groegan (unigolynnol) a’r Wyddeleg fraoch.
Enw
grug g (lluosog: grugoedd) neu torfol (unigolynnol: grugyn, grugen)
- (botaneg) Corlwyn bythwyrdd Ewrasia o’r ddau genera Erica a Calluna sy’n tyfu (weithiau i uchder o 50 centimetr) mewn crynswth trwchus ar fynyddoedd, rhosydd a gweunydd ac iddo ddail bychain hirfain a blodau porffor-pincaidd ar lun clychau bychain.
Amrywiadau
- gwrig (Sir Benfro)
Termau cysylltiedig
- gruga, grugo
- grugog, grugiog
- cyfansoddeiriau: grugiar, gruglusen, gruglwyn, grugnythu, grugos, grugwellt, gwruglyd
Cyfieithiadau
|
|