Cymraeg

Cynaniad

  • Cymraeg y gogledd: /ˈɡwanwɨ̞n/
  • Cymraeg y de: /ˈɡwanwɪn/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol gwaeanhwyn o'r Hen Gymraeg guiannuin o'r Frythoneg *wesant-ēno- (fel yn y Gernyweg gwenton) o'r Gelteg *wesantos, cyflwr traws o wesr- (a roes y Wyddeleg earrach) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *u̯és-r̥/n̥- ‘gwanwyn’, a welir hefyd yn y Lladin vēr, yr Hen Roeg (w)éar (ἔαρ), y Lithwaneg vãsara, vasarà ‘haf’, y Pwyleg wiosna a'r Sansgrit vasantá.

Enw

gwanwyn g (lluosog: gwanwynau, gwanwyni)

  1. Yn draddodiadol, y cyntaf o'r pedwar tymor o'r flwyddyn, pan fo planhigyn yn ymddangos o'r ddaear a choed yn dechrau blaguro. Daw ar ôl y gaeaf a chyn yr haf.

Cyfieithiadau