Cymraeg

 
Gwe pry cop

Geirdarddiad

Celteg *weg(i)ā, enw o'r ferf *weg-io- ‘gweu, clymu’, fel yn gwau ~ gweu; o'i gymharu â'r Llydaweg gwe ‘dirdro(ad), ysigiad’, y Gernyweg gwi ‘gwe’ a'r Hen Wyddeleg fige ‘gwead, cyfrodeddiad, plethiad; gwe, pleth’.

Enw

gwe b (lluosog: gweoedd)

  1. Y strwythur tebyg i sidan a adeiledir gan gorynnod.
    Adlewyrchai'r haul ar y gwe pry cop.
  2. Cyfres o bobl, llefydd neu pethau cysylltiedig, sy'n edrych fel gwe pry cop mewn diagram.
  3. Yn benodol y we fyd-eang; y rhyngrwyd.
    Gad i mi edrych ar y we am hynny.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau