gwlyb
Cymraeg
Cynaniad
Geirdarddiad
Cymraeg Canol gwlyp o'r Hen Gymraeg gulip o'r Gelteg *wlikʷos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯leikʷ- ‘gwlyb’ fel gwleb, gwlith, gwlithen, gwlych ac a welir hefyd yn y Lladin līquī ‘llifo, toddi’ a'r Tochareg A lyīktsi ‘golchi’. Cymharer â'r Gernyweg glyb, y Llydaweg gleb a'r Wyddeleg fliuch.
Ansoddair
gwlyb (benywaidd: gwleb)
- Am wrthrych a.y.b. wedi ei orchuddio â hylif.
- Eisteddodd y plant mewn dillad gwlyb ar ôl iddynt fod yn chwarae yn y glaw.
- Am y tywydd neu am ddiwrnod, glawiog.
- Fe fydd hi'n wlyb yfory.
- Wedi ei wneud o hylif neu leithder.
- Mae dŵr yn wlyb.
Termau cysylltiedig
- gwlybaniaeth, gwlybni, gwlybwr, gwlybyrwch, gwlypter, gwlypwch
- gwlybedd, gwlybyn
- cyfansoddeiriau: gwlyb-bydredd, gwlypdir
Cyfieithiadau
|
|