Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:

Cynaniad

  • /ɡwreːs/

Geirdarddiad

Celteg *gʷrenso- o’r ffurf Indo-Ewropeg *gʷʰre-ns-o-, estyniad o’r gwreiddyn *gʷʰer- ‘cynnes, twym’ fel yn y Lladin formus ‘cynnes’, y Saesneg warm, yr Hen Roeg thermós (θερμός) a’r Sansgrit ghraṁsá-ḥ (घ्रंस) ‘tanbeidrwydd yr haul’. Cymharer â’r Llydaweg gwrez ‘gwres’; ymhellach â’r Wyddeleg gríos ‘brech; marwor; gwres, gwrid’.

Enw

gwres g anrhifadwy

  1. (ffiseg) Egni thermol.
  2. Y cyflwr o fod yn boeth.
    Cadwa mas o'r gwres!
  3. Cyfnod poeth.
    Arhosodd y plant mewn tu fewn yn ystod gwres yr haf.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau