Cymraeg

 
Cacen wedi'i gorchuddio â hufen

Cynaniad

  • Cymraeg y gogledd: /ˈhɨ̞vɛn/
    • iaith lafar: /ˈhɨ̞van/
  • Cymraeg y de: /ˈhiːvɛn/, /ˈhɪvɛn/

Geirdarddiad

Celteg *soimeno- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *seikʷ- ‘diferu, llifo’, a welir hefyd yn yr Hen Norseg seimr ‘crwybr mêl’ a'r Hen Roeg haîma (αἷμα) ‘gwaed’. Cymharer â'r Llydaweg koaven ‘hufen’.

Enw

hufen g (lluosog: hufennau)

  1. Y braster menyn a ddaw o laeth sy'n codi i'r wyneb; y rhan hwn pan gaiff ei wahanu o'r gweddill.
  2. Lliw gwyn wedi'i felynu.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau