Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Iâr gyda'i chywion.

Cynaniad

  • /jaːr/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg iar o'r Gelteg *jaros, sy'n cytras â'r Slofeneg járica ‘cywen’ a'r Lithwaneg jerubė̃, jerbė̃, ìrbė ‘grugiar, iâr ddŵr’. Cymharer â'r Gernyweg a'r Llydaweg yar, y Wyddeleg Canol eirín ‘da pluog, ffowlyn’ a'r Wyddeleg eireog ‘cyw iâr’.

Enw

iâr b (lluosog: ieir)

  1. (adareg) Y fenyw o’r dofednod cyffredin a gedwir am ei bod yn cynhyrchu wyau.
  2. (yn drosiadol) Aderyn benywaidd.

Amrywiadau

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau