Cymraeg

Cynaniad

Geirdarddiad

Cymraeg Canol ieith o'r Gelteg *jextis o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *i̯ek- ‘siarad’ a welir hefyd yn y Lladin iocus ‘dywediad; cellwair, ffraetheb’, yr Hen Almaeneg Uchel jehan ‘siarad, dweud, cyffesu’ a'r Tochareg A yask ‘galw, cardota’. Cymharer â'r Gernyweg yeth, y Llydaweg yezh a'r Gwyddeleg Canol icht ‘pobl, cenedl, tylwyth’.

Enw

iaith b (lluosog: ieithoedd)

  1. Y dull o gyfathrebiad dynol, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn strwythur arbennig er mwyn cyfleu negeseuon.

Nodyn defnydd

  • Ni ddylid dweud yr iaith Gymraeg/Saesneg/Ffrangeg a.y.b. am fod yr ôl-ddodiad -eg yn dangos mai iaith yw'r gair.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau