Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈɪvaŋk/
  • yn y De: /ˈiːvaŋk/, /ˈɪvaŋk/

Geirdarddiad

O'r ffurf iefanc o'r Gymraeg Canol ieuanc o'r Gelteg *jowankos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂iuh₁n̥ḱós a welir hefyd yn y Lladin iuvencus, y Saesneg young a'r Sansgrit yuvaśá (युवश). Cymharer â'r Gernyweg yowynk, y Llydaweg yaouank a'r Wyddeleg óg.

Ansoddair

ifanc (lluosog: ifainc, cyfartal: ifanged, ifenged, cymharol: ifancach, ifengach, eithaf: ifancaf, ifengaf)

  1. Yn y rhan cynharaf o dyfiant neu fywyd; wedi'i eni ychydig amser yn unig yn ôl.
    Mae'r lluniau yn y llyfrau ar gyfer plant ifanc.
  2. Fel petai'n ifanc; yn meddu ar edrychiad neu rinweddau person ifanc.
    Mae hi'n ifanc iawn ei ffordd.

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Cyfieithiadau