llefrith
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈɬɛvrɪθ/
Geirdarddiad
Cyfansoddair o'r elfen flaenaf *llef ‘gwan, meddal’, ffurf gytras â'r Wyddeleg leamh ‘dihalen, croyw, crai’ o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₃lemH- ‘dryllio; drylliedig, gwan’, a'r ail elfen blith ‘llaethog, yn llaetha’. Cymharer â'r Gernyweg levryth ‘llaeth (ll)efrith, llaeth ffres’, y Llydaweg livrizh ‘llaeth amhasteuraidd’ a'r Hen Wyddeleg lemlacht, lemnacht.
Enw
llefrith g (anrhifadwy)
- (gyda grym ansoddeiriol) Llaeth ffres, llaeth newydd; llaeth llefrith
- (yn y Gogledd) Hylif gwyn a gynhyrchir gan chwarennau bronnol er mwyn maethu'r rhai bychain. Yn aml, cyfeiria at yr hylif a ddaw o'r fuwch.
- Mae babanod yn yfed llefrith am ei fod yn eu cryfhau.
Cyfystyron
- (2) llaeth
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: llefrithaidd, llefrithog
Cyfieithiadau
|
|