pluen
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈplɨː.ɛn/
- ar lafar: /ˈplɨː.an/
- yn y De: /ˈpliː.ɛn/
Geirdarddiad
Gynt plufen, plyfen, ffurf unigolynnol y Cymraeg Canol pluf, benthycair o’r Lladin plūma. Cymharer â’r Gernyweg pluv, y Llydaweg plu(ñv) a’r Wyddeleg clúmh ‘manblu’.
Enw
pluen b (lluosog: plu)
- (anatomeg, adareg) Alltyfiant gwastad ysgafn uwchgroenol sy’n gorchuddio corff yr adar, ac iddo nifer o saethflew hirgulion cydgloadol yn ffurfio llafn o bobtu i goesyn pigfain cornaidd rhannol wag, ac yn galluogi eu hadennydd i’w codi.
- Adeg rhyfel, rhoddwyd pluen wen i unrhyw ddyn a ystyriwyd yn llwfr.
- Dafn unigol o eira, yn arbennig grisial iâ bychan pluog sy’n arddangos cymesuredd chwephlyg cain yn nodweddiadol.
- Bach pysgota wedi’i addurno â’r rhain, tinsel, edau lliwgar, a.y.y.b., er mwyn denu pysgod.
Amrywiadau
Cyfystyron
- (2) fflochen eira
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: adbluen, di-blu, pluaidd, pluennu, plufyn, pluo, pluog
- cyfansoddeiriau: edeubluen, manblu, plu-balmwydden, plucan, pludde, pluenffurf, plufawr, plufwsogl, pluwellt, plu-wythiennog, sidanblu
- pluen allanol, pluen eira, pluen wen
Idiomau
Cyfieithiadau
|
|