rhisgl
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /r̥ɪsɡl/, [ˈr̥ɪskl̩]
- yn y De: /r̥ɪsɡl/, [ˈr̥ɪskl̩]
- ar lafar: /ˈr̥ɪsɡɪl/, [ˈr̥ɪskɪl], /ˈr̥ɪʃɡɪl/, [ˈr̥ɪʃkɪl]
Geirdarddiad
Bachigyn y Gelteg *rūskos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₃reuk- ‘datgloddio, datgladdu’ a welir hefyd yn y Lladin runcēre ‘chwynnu’, yr Hen Roeg orýssō (ὀρύσσω) ‘turio, palu’ a'r Sansgrit luñcati (लुञ्चति) ‘tynnu, plycio’. Cymharer â'r Gernyweg a'r Llydaweg rusk a'r Wyddeleg rúsc.
Enw
rhisgl g (lluosog: rhisglau; unigolynnol: rhisglyn)
- (botaneg) Gorchudd allanol gwydn boncyff a changhennau coeden.
- Mae rhisgl y goeden yn ei amddiffyn rhag yr elfennau.
Amrywiadau
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|