Cymraeg

Cynaniad

  • yn y De: /tau̯/
    • ar lafar: /ta/, /tə/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg -tau o'r Gelteg *tā-je/o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *steh₂- ‘sefyll’ a welir hefyd yn y Lladin stāre, y Saesneg stand a'r Tsieceg stát. Cymharer â'r Gernyweg Canol otte, atta ‘dyna, dacw’, yr Hen Lydaweg to ‘ydyw, ydi; mae o/e’ a'r Wyddeleg ‘yn sefyll, wedi'i leoli’.

Cysylltair

taw

  1. (yn y De) Mai.
    O'n i'n meddwl taw fe wedodd 'ny.
    Credaf taw yr ehedydd a glywir.

Cyfystyron

  • (yn y Gogledd) mai


Cynaniad

  • yn y Gogledd: /taːu̯/
  • yn y De: /tau̯/

Geirdarddiad

Celteg *tawsos, ‘tawelwch’ o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *teh₂u̯s- a welir hefyd yn y Norwyeg tyst ‘distaw’, y Lithwaneg tausýtis ‘ymlonyddu, ymdawelu’ a'r Sansgrit tūṣṇīm (तूष्णीम्) ‘yn ddistaw’. Cymharer â'r Gernyweg taw, y Llydaweg tav a'r Hen Wyddeleg táue.

Enw

taw g

  1. Cyflwr neu ansawdd bod neu aros yn llonydd neu'n dawel.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau