tyfu
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈtəvɨ̞/
- yn y De: /ˈtəvi/
Geirdarddiad
Celteg *tum-ī- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *tum-éh₁- ‘yn chwyddo’, ffurf stadus *tum- ‘chwyddo’ a welir hefyd yn y Lladin tumēre ‘chwyddo’ a'r Lithwaneg tumė́ti ‘tewhau; ceulo, tolchi’. Cymharer â'r Gernyweg tevi ‘tyfu’ a'r Llydaweg teñvañ ‘creithio; cymryd (am impyn)’. Gair sy'n gysylltiedig â twf.
Berfenw
tyfu berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: tyf-)
- Mynd yn fwy.
- Mae plant yn tyfu'n gyflym.
- Ymddangos neu flaguro.
- Roedd y blodau'n dechrau tyfu yn y cloddiau.
Termau cysylltiedig
Cyfystyron
Cyfieithiadau
|
|