wedi
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈwɛdi/
Geirdarddiad
Ffurf dreigledig ar gwedi, gwedy o'r Hen Gymraeg guotig o'r Frythoneg *wo-tigu- ‘yn y diwedd neu ar ôl y diwedd’ o'r ansoddair Celteg *tigus (a roes yn yr Hen Wyddeleg tiug ‘olaf, diwethaf’) o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *(s)teig- ‘pigo, brathu, gwanu; blaenllym’. Cymharer â'r Gernyweg wosa a'r Llydaweg goude.
Arddodiad
wedi
- Ar ôl, yn ôl, yn dilyn.
Cyfieithiadau
|
|
Geiryn berfol
- Fe’i defnyddir gyda’r ferf bod i fynegi’r amser perffaith a’r gorberffaith.