ymennydd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /əˈmɛnɨ̞ð/
- yn y De: /əˈmɛnɪð/
Geirdarddiad
O'r Gelteg *en-kʷennio-, tarddair o *en- ‘yn’ + *kʷennom ‘pen’. Cymharer â'r Gernyweg ympynnyon, y Llydaweg empenn a'r Wyddeleg inchinn.
Enw
ymennydd g (lluosog: ymenyddiau)
- (anatomeg) Y rhan rheolyddol o system nerfol ganolog anifail sydd wedi ei leoli yn y penglog sy'n gyfrifol am ganfyddiadau, sylw, cof, emosiwn a gweithredodd.
- Deallusrwydd
- Mae ganddo lawer o ymennydd.
Termau cysylltiedig
Cyfieithiadau
|
|