Atodiad:Prif dudalen
Mae gan bob geiriadur da atodiadau. Mae'r dudalen hon yn esbonio beth ydyn nhw a sut i'w hysgrifennu.
Crynodeb
golyguDylech rhoi crynodeb ar ddechrau atodiadau a chategorïau Wiciadur yn esbonio pwrpas y dudalen. Gwnewch yn siwr fod y crynodeb yn gryno ond yn rhoi digon o wybodaeth.
Taflenni Cynnwys
golyguNid yw Taflenni Cynnwys fel arfer yn addas ar gyfer Atodiadau Wiciadur os ydynt yn cynnwys geiriau, enwau a thermau yn nhrefn yr wyddor. Os ydy hyn yn yr achos defnyddiwch y nodyn yma er mwyn cael tabl o'r wyddor:
{{TCcryno}}
Os bydd yr wyddor Saesneg yn fwy addas (e.e. ar gyfer enwau lleoedd) defnyddiwch:
{{TCcryno Saesneg}}
Mae yna hefyd:
{{TCcryno arferol}}
a fydd yn fwy addas ar gyfer rhai atodiadau. Nid yw'n cynnwys llythrennau sydd ddim ond mewn treigladau ac mae'n cynnwys y llythrennau j a k.
Yn olaf, mae yna:
{{TCcryno llawn}}
sy'n cynnwys pob llythyren yn yr wyddor Gymraeg, j a k, a'r rhifau (0-9).
Hefyd, os nad oes angen yr atodiad unrhyw fath o daflen cynnwys mewngosodwch y côd:
__DIMTAFLENCYNNWYS__
(Dylech nodi fod y côd yma o fewn pob taflen cynnwys uwch yn barod.)
Dylai'r Taflenni Cynnwys ddilyn ar ôl y crynodeb uchod.
Atodiadau newydd
golyguPeidiwch anghofio rhoi eich atodiad newydd ar y nodyn yma, er mwyn iddo gael ei restri ar y dudalen Hafan. Hefyd, mewnosodwch [[Categori:Atodiad|enw'r atodiad]] ar ddiwedd y dudalen er mwyn rhoi'r atodiad yn y categori atodiadau.