Cymraeg

Cynaniad

  • /daː/

Geirdarddiad

O’r Gelteg *dagos o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *déḱos a welir hefyd yn y Lladin decus ‘urddas’, yr Afesteg dasa ‘nwyddau, eiddo’ a’r Sansgrit dā́ś (दाश्) ‘addoli(ad), parch’. Cymharer â’r Gernyweg da, y Llydaweg hynafol da a Gaeleg yr Alban deagh ‘ardderchog’.

Ansoddair

da (cyfartal cystal, cymharol gwell, eithaf gorau)

  1. Gwneud y peth iawn neu gywir.
    Gwnaeth y ferch ddewis da.
  2. Yn ddefnyddiol i bwrpas arbennig.
    Roedd y meicrodon yn dda ar gyfer coginio eog.
  3. Am fwyd, ag iddo flas dymunol.
    Cawsom ni bryd da o fwyd yn y dafarn.
  4. Iachus
    Mae llysiau gwyrdd yn 'dda i chi.
  5. Yn gyfangwbl.
    Bydd yn cymryd hanner awr dda i gyrraedd copa'r mynydd.

Cyfystyron

Gwrthwynebeiriau

Termau cysylltiedig

Odlau

Cyfieithiadau


Enw

da g (lluosog: daoedd)

  1. daioni.
  2. cyfoeth, meddiannau.
  3. buchod, gwartheg.
    Gwelwyd llawer o dda yn pori yn y cae.

Termau cysylltiedig

Cernyweg

Cynaniad

  • /ˈdα./

Ansoddair

da (cymharol gwell, eithaf gwella)

  1. da, mad