Cymraeg

Enw

acen b (lluosog: acenion, acennau)

  1. (ieithyddiaeth) Ynganiad cryfach o air neu ymadrodd er mwyn ei wahaniaethu o'r geiriau sydd o'i amgylch neu er mwyn pwysleisio.
    Yn y mwyafrif o eiriau Cymraeg, rhoddir yr acen ar y goben, sef y sillaf olaf ond un.
  2. Goslefiad yn y llais tra'n siarad; y ffordd o siarad neu ynganu; tôn.
    Siaradai'r gŵr gydag acen Eidalaidd amlwg.
  3. Symbol ysgrifenedig a roddir ar ben llafariad er mwyn dynodi'r math o sain mae'n creu.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau