Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Aradr ddur
 
Rhannau'r aradr: 1. arnodd; 3. rheolydd; 4. cwlltwr; 6. swch; 7. chwelydr; 8. haeddel.

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈaradr̩/
    • ar lafar: /ˈarad/
  • yn y De: /ˈaːradr̩/, /ˈaradr̩/
    • ar lafar: /ˈaːrad/, /ˈarad/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg arater o'r Gelteg *aratrom o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₂érh₃trom a welir hefyd yn y Lladin arātrum, y Swedeg årder ‘gwŷdd’ a'r Hen Roeg árotron (ἄροτρον). Cymharer â'r Gernyweg arader, y Llydaweg arar a'r Hen Wyddeleg arathar.

Enw

aradr b/g (lluosog: erydr / ereidr)

  1. Dyfais a dynnir drwy'r pridd neu'r ddaear er mwyn ei agor yn rhychau er mwyn medru plannu hadau neu blanhigion ynddo.

Cyfystyron

  • (Gogledd-ddywrain Cymru) gwŷdd

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau