Gweler hefydgŵydd

Cymraeg

Cynaniad

  • Cymraeg y Gogledd: /ɡwɨːð/
  • Cymraeg y De: /ɡwiːð/

Geirdarddiad

  • Enw 1: Cymraeg Canol gwyd o'r Hen Gymraeg guid o'r Gelteg *widus ‘gwydden, coeden’ o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *u̯idʰ-u- a welir yn y Saesneg wood a'r Lithwaneg vidùs ‘canol (enw)’. Cymharer â’r Gernyweg gwydh ‘coed’, y Llydaweg gwez ‘coed’ a’r Wyddeleg fiodh ‘pren’.
  • Enw 2/3: Tarddeiriau o'r enw blaenorol oherwydd eu bod yn wreiddiol yn fframiau pren yn unig.

Enw

gwŷdd torfol (unigol: gwydden, bachigyn: gwyddian)

  1. (llenyddol) Coed, prennau.

Cyfieithiadau


Enw

 
Gwŷdd peiriannol

gwŷdd g (lluosog: gwyddiau)

  1. Cyfarpar, pŵer-yredig neu a weithir â llaw, ar gyfer gwehyddu ffabrigau trwy groesi'r edafedd unionsyth â'r rhai llorweddol (a elwir yr ystof a'r anwe yn y drefn honno) ar ongl sgwâr.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau


Enw

 
Gwŷdd (ystyr 2) (heb chwelydr)

gwŷdd g (lluosog: gwyddion)

  1. (Gogledd-ddywrain Cymru) Aradr.
  2. (archeolog, mewn ystyr cyfyng) Aradr gyntefig â ffrâm bren gymesur heb chwelydr, sy'n rhychu'r pridd heb ei droi.

Cyfystyron

  1. aradr

Cyfieithiadau