Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /aˈrɛdɪɡ/
  • yn y De: /aˈreːdɪɡ/, /aˈrɛdɪɡ/

Geirdarddiad

Y berfenw o’r berfansoddair Cymraeg Canol eredic ‘wedi’i aredig’ o’r Gelteg *aratīkos a roes yr enw Llydaweg aradeg. Y berfenw gwreiddiol arddu o’r Gelteg *ar-jo- o’r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₂erh₃-ie- ‘aredig’ a welir hefyd yn y Lladin arāre, yr Islandeg erja, y Roeg aroûn (ἀροῦν), y Lithwaneg árti a’r Serbo-Croateg òrati. Gweler aradr, âr. Cymharer â’r Gernyweg aras, y Llydaweg arat a’r Wyddeleg lenyddol air.

Berfenw

aredig berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: ardd-)

  1. defnyddio aradr er mwyn paratoi tir ar gyfer plannu cyndau
    Mae angen i mi aredig y tir acw.

Amrywiadau

Cyfieithiadau