barcud
Cymraeg
Cynaniad
- Cymraeg y Gogledd: /ˈbarkɨ̞d/
- Cymraeg y De: /ˈbarkɪd/
Geirdarddiad
Cyfansoddair o'r elfen gyntaf *barg- (fel yn bery ‘aderyn ysglyfaethus’ a'r Hen Wyddeleg berg ‘anrhaith; ysbeiliwr’) a'r ail elfen cud, cut ‘barcud’ (gweler cudyll). Cymharer â'r Gernyweg bargos ‘boda, cudyll’ a'r Llydaweg barged ‘barcud’.
Enw
barcud g (lluosog: barcudiaid)
- (adareg) Unrhyw aderyn ysglyfaethus canolig ei faint yn yr is-deulu Milvinae neu yn y genws Elanus o'r teulu Accipitridae sydd ag adennydd hirion, cynffon fforchog a phig gwan ac sy'n bwydo ar drychfilod ac ymlusgiaid bychain yn bennaf. Treuliant llawer o'u hamser yn esgyn uwchben y tir.
- (trwy gydweddiad) Tegan ysgafn ar dennyn sydd yn cael ei gario gan y gwynt ac a gaiff ei reoli gan berson sy'n sefyll ar y ddaear gan un llinyn neu fwy.
Amrywiadau
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: barcuta, barcutaidd
- barcud brych
- barcud coch
- barcud du'r rhos
- barcud glas
- barcud gwynt
- barcud papur
- barcud ysgwydd-ddu
- barcud y môr
- llygad barcud
Cyfieithiadau
|
|