Cymraeg

 
Llun o farcud ysgwydd-ddu
 
Barcudiaid tegan yn hedfan yn yr awyr
 
Siâp barcud

Sillafiadau eraill

Geirdarddiad

Cyfansoddair o'r elfen gyntaf *barg- (fel yn bery ‘aderyn ysglyfaethus’ a'r Hen Wyddeleg berg ‘anrhaith; ysbeiliwr’) a'r ail elfen cud, cut ‘barcud’ (gweler cudyll). Cymharer â'r Gernyweg bargos ‘boda, cudyll’ a'r Llydaweg barged ‘barcut’.

Enw

barcut g (lluosog: barcutiaid)

  1. (adareg) Unrhyw aderyn ysglyfaethus yn yr is-deulu Milvinae neu yn y genws Elanus o'r teulu Accipitridae sydd ag adennydd hirion a choesau gwan ac sy'n bwydo ar gig yn bennaf. Treuliant llawer o'u hamser yn esgyn uwchben y tir.
  2. Tegan ysgafn ar dennyn sydd yn cael ei gario gan y gwynt ac a gaiff ei reoli gan berson sy'n sefyll ar y ddaear gan un llinyn neu fwy.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau