Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Braich

Cynaniad

  • /brai̯χ/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol breich o'r Lladin bracchium. Cymharer â'r Gernyweg bregh a'r Llydaweg brec'h.

Enw

braich b (lluosog: breichiau)

  1. (anatomeg) Y rhan o'r atodyn uchaf o'r corff dynol rhwng yr ysgwydd a'r arddwrn ac sydd weithiau'n cynnwys y llaw.
    Penderfynodd ei fod am gael tatŵ o angor ar ei fraich.
  2. Darn hir, cul sy'n ymestyn allan o brif ran gwrthrych, megis braich y gadair.
    Am nad oed digon o gadeiriau, eisteddais ar fraich y gadair yn lle.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau