llaw
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ɬaːu̯/
- yn y De: /ɬau̯/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg lau o'r Gelteg *φlāmā o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *pl̥h₂meh₂ a welir hefyd yn y Lladin palma ‘cledr llaw’, yr Hen Saesneg folm(e) ‘llaw, cledr llaw’ a'r Hen Roeg palámē (παλάμη) ‘cledr llaw’. Cymharer â'r Gernyweg leuv, y Llydaweg lavig ‘llawio, dylofiad’ a'r Wyddeleg lámh.
Enw
llaw b (lluosog: dwylo)
- (anatomeg) Y rhan derfynol ar waelod y fraich ddynol, o dan yr elin a'r arddwrn, a ddefnyddir i afael ac i ddal ac sy'n cynnwys cledr y llaw (palf), pedwar bys a bawd gwrthsymudol.
- Enghraifft o gynorthwyo.
- Rhoddodd ei rieni help llaw iddo pan oedd yn symud tŷ.
- Person profiadol neu gymwys i wneud tasg benodol.
- Roedd yn hen law ar ladd y gwair a gorffennodd mewn dim o dro.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: di-law, hylaw, llawaidd, llawio, llawiog
- cyfansoddeiriau: canllaw, gerllaw, llawagored, llawbel, llawchwith, llawdrwm, llawdryfer, llawdde, llawddewin, llawddryll, llawdueddiad, llawdyn ~ llawdynn, llawes, llawfaeth, llawfag, llawfeddyg, llawfer, llawforwyn, llawfwyell, llawffon, llawgaead, llawhir, llawlif, llawlyfr, llawlyw, llawrestr, llawrodd, llawsafiad, llawsefyll, llaw-waith, llawysgrif
- help llaw
- llond llaw
- wrth law
Cyfieithiadau
|
|