coch
Cymraeg
Cynaniad
- /koːχ/
Geirdarddiad
Benthycair o'r Lladin coccum ‘aeronen goch; prinwydden (derwen goch); coch y derw’ o'r Hen Roeg kókkos (κόκκος) ‘gronyn, cnewyllyn; prinwydden; coch y derw’. Cymharer â'r Gernyweg kogh ‘sgarlad, fflamgoch’.
Ansoddair
coch (lluosog: cochion; cyfartal coched, cymharol cochach, eithaf cochaf)
- Lliw cynradd y mae ei arlliw yn debyg i liw gwaed neu rhuddem ac sydd ar y pen tonfedd-hir eithaf o'r sbectrwm gweladwy.
- Gwisgai'r ferch sgert goch.
- (am wallt) lliw browngoch neu orenfrown; cringoch, gwalltgoch, pengoch.
- Mae gwallt coch gyda Nicole Kidman.
Cyfystyron
- (yn llenyddol) rhudd
- cringoch, gwalltgoch, pengoch
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: cochder, cochi, cochlyd, cochyn ~ cochen, cochni
- cyfansoddeiriau: browngoch, cochddu ~ dugoch, cochfelyn ~ melyngoch, cochgam, cochliw, cochlwyd, cochwawr, cringoch, eurgoch, fflamgoch, glasgoch, gwaetgoch, gwalltgoch, gwineugoch, gwritgoch, lletgoch, pengoch, purgoch, rhuddgoch, rhytgoch
Cyfieithiadau
|
|