Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Gwallt cyrliog (David Luiz, pêl-droediwr o Frasil)

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɡwaːɬd/, [ɡwaːɬt]
  • yn y De: /ɡwaɬd/, [ɡwaɬt]

Geirdarddiad

Celteg *woltos o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *u̯elh₂- ‘gwallt, blew, gwlân’ a welir hefyd yn yr Almaeneg Wald ‘coed’, y Lithwaneg váltis ‘col(a), panicl ceirch’, y Serbo-Croateg vlȃt ‘tywys ŷd’ a’r Hen Roeg lásios (λάσιος) ‘blewog’. Cymharer â’r Gernyweg gols, yr Hen Lydaweg guolt a’r Wyddeleg folt.

Enw

gwallt g (lluosog: gwalltiau)

  1. (anatomeg) Cnwd o flew ar ben dynol, heb gynnwys blew’r wyneb.
    Yn y Beibl, roedd holl nerth Samson yn ei wallt.

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau