cywarch
Cymraeg
Cynaniad
- /ˈkəu̯arχ/
Geirdarddiad
Celteg *ko-werk(k)o- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *u̯erg- ‘gwnïo, brodio’ a welir hefyd yn yr Almaeneg Werg ‘carth, ocwm’ a'r Roeg érgo (έργο) ‘gwaith; breisgion, carth’. Cymharer â'r Gernyweg kewargh, kowargh a'r Llydaweg (Gwened) kouarc'h.
Enw
cywarch g (bachigyn: cywarchen)
- (botaneg) Planhigyn llysieuol tal a buandwf o Asia a dyfir ymhell ac agos (Cannabis sativa o deulu'r Cannabaceae) ac sydd â ffibrau cwrs y rhisgl mewnol a ddefnyddir yn arbennig ar gyfer rhaffau ac a wahanir yn aml yn gyltifar tal denau o ganghennog (C. sativa) a chyltifar iseldwf drwchus o ganghennog (C. indica).
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: cywarchog, cywarchwr
- cyfansoddeiriau: cywarchlen
- cyfuniadau: cywarch benyw, cywarch gwryw, cywarch trwytho
Cyfieithiadau
|
|