Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
Wyneb dynes

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈwɨnɛb/
    • ar lafar: /ˈwɨnab/
  • yn y De: /ˈʊi̯nɛb/, /ˈwɪnɛb/
  •  wyneb    (cymorth, ffeil)

Geirdarddiad

Hen Gymraeg enep o’r Gelteg *enīkʷom o’r Indo-Ewropeg *h₁en(i)-h₃kʷos o’r gwreiddyn *h₃ókʷs ‘llygad’ gyda’r rhagddodiad *h₁en(i)- ‘mewn’ a welir hefyd yn yr Hen Roeg enōpḗ (ἐνωπή) ‘wyneb’ a’r Sansgrit ánīka (अनीक) ‘wyneb’. Cymharer â’r Gernyweg enep ‘wyneb’, y Llydaweg eneb ‘arwyneb; gwrthwyneb’ a’r Hen Wyddeleg enech ‘wyneb; parch, hunan-barch’.

Enw

wyneb g (lluosog: wynebau)

  1. Y rhan flaen o'r pen, sy'n cynnwys y llygaid, trwyn a'r geg a'r ardal sy'n eu hamgylchynu.
    Mae ganddi wyneb prydferth.
  2. Mynegiant wynebol rhywun.
    Pam yr wyneb trist?
  3. Y deial rhifedig ar gloc neu oriawr.
    Trodd y bysedd ar wyneb y cloc yn araf iawn.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau