Cymraeg

 
Wicipedia
Mae gan Wicipedia erthygl ar:
 
llyw (1) yn y tu blaen (o flaen y sgriw yrru)
 
olwyn llyw (2)

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ɬɨ̞u̯/
  • yn y De: /ɬɪu̯/

Geirdarddiad

Hen Gymraeg liu o'r Gelteg *φlowjos o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *pleu- ‘llifo’ a welir hefyd yn y Lladin plovere ‘glawio’, y Saesneg flow, yr Hen Roeg plóos (πλόος) ‘llongwriaeth’ a'r Sansgrit plávate ‘mae'n nofio’. Cymharer â'r Gernyweg lew ‘llyw’, y Llydaweg leviañ ‘llywio, bod wrth y llyw’, levier ‘peilot’ a'r Hen Wyddeleg luí ‘llyw; rhan ôl carn anifail, cynffon’ (< *φlowjā).

Enw

llyw g (lluosog: llywiau)

  1. Llafn tanddwr a ddefnyddir i lywio cwch neu long.
  2. Offeryn sef lifer neu olwyn y tu mewn i gwch neu long i reoli’r darn hwnnw.
  3. (trwy estyniad, awyrenneg) Aerwyneb cynorthwyol symudol ar awyren sydd fel arfer yn sownd yn y sadiwr fertigol ac yn rheoli cyfeiriad hedfan yn y plân llorwedd.
  4. (yn ffigurol) Person sy'n rheoli neu'n llywodraethu.
    Tywysog olaf Cymru oedd Llywelyn ein Llyw Olaf.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Homoffonau

Cyfieithiadau